Friday 25 March 2011

Lawnsio Detholiad o faledi Huw Jones ‘Llymgi penllwyd Llangwm’

Cefnogodd Ganolfan Richard Burton lansiad o ddetholiad o hanner cant o faledi Huw Jones o Langwm, un o faledwyr mwyaf adnabyddus a mwyaf cynhyrchiol y ddeunawfed ganrif, yn y Bala nos Wener 3 Rhagfyr 2010. Golygwyd y casgliad gan Dr Alaw Mai Edwards (o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth) a Dr A Cynfael Lake (o Adran y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi). Ffrwyth prosiect a ariannwyd gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yw’r gyfrol.

Diolch i nawdd y Bwrdd cyflogwyd Dr Edwards am flwyddyn i gasglu ac i gopïo holl faledi Huw Jones, ryw ddau gant ohonynt i gyd. Er mai ar gyfer cynulleidfa o Gymry uniaith yn y ddeunawfed ganrif y lluniwyd y baledi, y mae llawer o’r pynciau a drafodir yr un mor gyfoes heddiw. Fel yr esboniodd Dr Lake, ‘Byddai baledwyr y ddeunawfed ganrif yn lleisio pryderon eu cyd-Gymry am ferched sy’n cael plant y tu allan i briodas ac yn disgwyl i’r gymdeithas eu cynnal, ac am y bobl hynny yr oedd yn well ganddynt ddiogi na gweithio. Dyma bynciau sydd yn y newyddion ar hyn o bryd wrth i’r Llywodraeth gwtogi ar wariant cyhoeddus ac ar y gwasanaeth lles yn benodol’.

Yn ystod y lawnsio, clywyd y ddau olygydd a Dr Ffion Mair Jones (o’r Ganolfan Uwchefrydiau) yn sôn am faledi Huw Jones, a bu Dr Ffion Mair Jones yn datgan rhai o’r baledi .

[The Richard Burton Centre supported the launch of Dr. Cynfale Lake's new edition of the Ballads of Huw Jones, Llangwm]